Firm fined £350,000 for making record 146 million nuisance calls

Mae cwmni sy’n gyfrifol am y nifer fwyaf erioed o alwadau anghyfreithlon ynghylch PPI, sef 146 miliwn, wedi cael dirwy o £350,000 gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Cafodd pobl eu gadael â’r teimlad eu bod yn cael eu haflonyddu a’u bygwth gan y galwadau wedi’u recordio – sydd hefyd yn cael eu galw’n alwadau awtomataidd – gan gwmni Your Money Rights Ltd o Sir Gaerfyrddin.

Bu’r cwmni’n gyfrifol am y nifer fwyaf hyd yn hyn o alwadau awtomataidd sydd wedi arwain at ddirwy gan yr ICO.

Dim ond os ydyn nhw wedi cael caniatâd pendant pobl y caiff cwmnïau eu ffonio â galwadau marchnata awtomataidd. Doedd dim caniatâd gan Your Money Rights ac felly roedd y cwmni’n torri’r gyfraith.

Roedd y galwadau, dros gyfnod o bedwar mis, hefyd yn torri’r rheolau drwy beidio â chynnwys enw a manylion cysylltu’r cwmni yn y neges wedi’i recordio.

Dywedodd Steve Eckersley, Pennaeth Gorfodi yn yr ICO:

"Ar ran y cyhoedd ym Mhrydain, rydym yn gwasgu’n drwm ar alwadau awtomataidd anghyfreithlon. Maen nhw’n bla ar y gymdeithas gan anwybyddu hawl pobl i gael parch at eu dymuniad i gael llonydd yn eu cartref eu hunain.

"Gwyddom fod pobl o’r farn bod galwadau wedi’u recordio’n ymyrryd yn arbennig o wael am eu bod nhw’n methu siarad â swyddog. Dylai Your Money Rights fod wedi bod yn ymwybodol bod y gyfraith ar alwadau awtomataidd yn llymach nag ar gyfer galwadau marchnata eraill."

Yn sgil ymchwiliad yr ICO, mae cyfarwyddwyr Your Money Rights Ltd, sydd â’i ganolfan yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ond sydd â’i gyfeiriad cofrestredig yn Darlington, yn ceisio datod y cwmni. Mae’r ICO wedi ymrwymo i adennill y ddirwy a bydd yn gweithio gydag ymarferwyr ansolfedd a’r datodwr os bydd y cwmni’n mynd yn ansolfent.

Bydd pwerau’r ICO yn cael eu cryfhau ymhellach pan fydd y llywodraeth yn cyflwyno deddf newydd yn caniatáu iddo ddirwyo cyfarwyddwyr y cwmni sydd y tu ôl i gwmnïau sy’n gwneud galwadau niwsans. Bydd gwneud y cyfarwyddwyr yn gyfrifol yn eu hatal rhag osgoi dirwyon drwy ddatod eu cwmni.

Dywedodd Mr Eckersley:

"Brysied y dydd y caiff y gyfraith ei newid i beri bod cyfarwyddwyr yn bersonol atebol am alwadau marchnata anghyfreithlon.

"Os bydd cwmni’n rhoi’r gorau i wneud busnes er mwyn ceisio osgoi dirwy gan yr ICO yna dydyn nhw ddim yn gwneud galwadau niwsans mwyach. Ond bydd y ddeddf newydd yn cynyddu’r dulliau sydd ar gael i ni wrth fynd ar eu hôl ac yn eu dwyn i gyfrif yn llwyr am yr aflonyddu, y blinder a’r ymyrraeth y maen nhw wedi’u creu."

Mae’r enghreifftiau o gwynion am y galwadau sydd wedi dod i law’r ICO yn cynnwys:

  • "Rwy’n teimlo bod y galwadau niwsans yma’n sy’n ddigroeso ac yn niferus yn fygythiol ac rwy’n poeni y ca i fy nhynnu i mewn i dwyll os bydda i’n dilyn un o’r opsiynau."
  • "Maen nhw’n galw ddwywaith y dydd. Mae’r peth yn fy ngyrru o’m co. Dwi’n helpu i ofalu am berthynas sy’n sâl iawn ac felly mae angen imi ateb y ffôn."
  • "Mae’r galwadau awtomataidd di-baid hyn nad ydw i wedi gofyn amdanyn nhw’n teimlo fel aflonyddu."
  • "Galwadau sydd heb eu gwahodd yw’r rhain ac maen nhw’n mynd yn annioddefol am eu bod nhw’n ddi-baid, yn gyson (1-2 bob dydd) ac yn torri ar draws fy niwrnod i, yn agos i amser bwyd fel arfer. Mae’n bryd rhoi stop arnyn nhw!"
  • "Rwy’n eithriadol o grac bod y cwmnïau hyn yn cael bwrw i mewn i’m cartref i heb hyd yn oed ddigon o barch i fod â rhywun o gig a gwaed ben arall y ffôn."

Gallwch roi gwybod am alwadau niwsans drwy gyfleuster ar-lein yr ICO.

Gall pobl gwyno am PPI eu hunain yn rhad ac am ddim, heb ddefnyddio cwmni hawliadau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael gan yr FCA.

 

Nodiadau i Olygyddion 

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion
  1. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig
  1. Gall yr ICO weithredu i newid ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy’n casglu, defnyddio a chadw gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys erlyn troseddwyr, gwaith gorfodi annhroseddol ac archwilio. Mae gan yr ICO bŵer i roi dirwy ariannol ar reolwr data o hyd at £500,000.
  1. Mae Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) yr Undeb Ewropeaidd yn ddeddf newydd a fydd yn gymwys yn y Deyrnas Unedig o 25 Mai 2018 ymlaen. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau na fydd penderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r UE yn effeithio ar gychwyn y GDPR. Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno mesurau sy’n ymwneud â hyn a diwygiadau ehangach ynglŷn a diogelu data mewn Bil Diogelu Data.
  1. Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) yn cyd-fynd â’r Ddeddf Diogelu Data. Maen nhw’n rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebu electronig.

Ceir rheolau penodol ynghylch:

  • galwadau, negeseuon ebost, negeseuon testun a negeseuon ffacs at farchnata;
  • cwcis (a thechnolegau tebyg);
  • cadw gwasanaethau cyfathrebu’n ddiogel; a
  • phreifatrwydd cwsmeriaid o ran data ar draffig a lleoliadau, biliau fesul eitem, adnabod llinellau, a chofnodion mewn cyfeiriaduron.

Rydym yn anelu at helpu sefydliadau i gydymffurfio â’r PECR a hybu arferion da drwy gynnig cyngor a chanllawiau. Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn sefydliadau sy’n anwybyddu eu rhwymedigaethau’n barhaus.

  1. Mae Cosbau Ariannol Sifil (CMPs) yn dod o dan hawl i apelio i’r Siambr Reoleiddiol Gyffredinol (Tribiwnlys Haen Gyntaf) yn erbyn gosod y gosb ariannol a/neu swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad cosb ariannol.
  1. Mae unrhyw gosb ariannol yn cael ei thalu i Gronfa Gyfunol y Trysorlys ac nid yw’n cael ei chadw gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
  1. I roi gwybod am bryder i’r ICO ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 123 1113 neu ewch i ico.org.uk/concerns