The UK’s independent authority set up to uphold information rights in the public interest, promoting openness by public bodies and data privacy for individuals.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi rhoi dirwy o dan y gyfraith a gyflwynwyd i atal twyllwyr rhag twyllo pobl allan o'u pensiynau.

Cafodd cwmni o Abertawe, CPS Advisory Ltd, ddirwy o £130,000 am wneud mwy na 100,000 o alwadau marchnata uniongyrchol heb awdurdod i bobl ynglŷn â’u pensiynau.

Newidiodd y gyfraith yn 2019 i gyfyngu ar bwy gaiff alw pobl ynglŷn â’u pensiynau

Dywedodd Andy Curry, Pennaeth Ymchwiliadau’r ICO:

“Mae galwadau diwahoddiad ynghylch pensiynau yn gallu peri gofid gwirioneddol, a chaledi ariannol sylweddol hyd yn oed, i bobl sy'n agored i niwed yn aml, sef pobl sy’n gallu colli’r pot pensiwn maen nhw wedi gweithio’n ddygn i’w gasglu i dwyllwyr.

“Mae'n amlwg bod y cwmni hwn wedi diystyru'r gyfraith pan ddylen nhw wybod yn well. Busnesau sy'n gwneud galwadau marchnata uniongyrchol sy'n gyfrifol am ddeall eu cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth, ac nid yw anwybodaeth yn esgus.”

O dan y gyfraith newydd, dyw cwmnïau ddim yn cael gwneud galwadau byw i bobl ynglŷn â’u eu pensiynau galwedigaethol neu bersonol oni bai:

  • bod y galwr wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), neu'n ymddiriedolwr neu'n rheolwr cynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, a
  • bod derbynnydd yr alwad yn cydsynio i gael ei alw, neu fod ganddo berthynas â’r galwr yn barod.

Cafodd newid ei wneud ym mis Ionawr 2019 yn y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) sy'n ymdrin â galwadau marchnata, dros y ffôn a thrwy negeseuon testun er mwyn atal pobl rhag dioddef twyll, y mae’r rhan fwyaf ohono’n digwydd drwy alwadau niwsans, ac o bosibl eu harbed rhag colli eu pensiynau.

Dywedodd Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys, John Glen:

“Galwadau diwahoddiad ynghylch pensiynau yw'r dull mwyaf cyffredin sy’n cael ei ddefnyddio i gychwyn sgamiau pensiwn, sy'n gallu amddifadu pobl o'r cynilion maen nhw wedi gweithio’n galed i’w crynhoi a dinistrio bywydau. Dyna pam yr aethon ni ati i’w gwahardd. Dylai'r ddirwy heddiw fod yn rhybudd i bobl eraill fod galw’n ddiwahoddiad ynghylch pensiynau yn annerbyniol, a bydd y rhai sy’n cael eu dal yn diystyru'r rheolau yn cael eu dwyn i gyfrif.”

O dan y PECR, mae busnesau a'u swyddogion yn gallu wynebu dirwy o hyd at £500,000 gan yr ICO.

Yn ystod ei hymchwiliad, gwelodd yr ICO fod y cwmni, rhwng 11 Ionawr 2019 a 30 Ebrill 2019, wedi gwneud 106,987 o alwadau i bobl heb awdurdod cyfreithlon.

Canfu'r ICO nad oedd y cwmni'n ymddiriedolwr nac yn rheolwr cynllun pensiynau ac nad oedd wedi'i awdurdodi gan yr FCA ac fe fethodd y dystiolaeth a roddodd â bodloni'r ICO bod cydsyniad dilys wedi'i sicrhau.

Penderfynodd y Comisiynydd Gwybodaeth fod hyn yn ymyrraeth sylweddol â phreifatrwydd y bobl a gafodd alwadau o'r fath.

Dylai unrhyw un sy'n credu eu bod wedi dioddef galwadau, negeseuon testun neu negeseuon e-bost niwsans gysylltu â'r ICO gyda'r manylion ar-lein. Gallwch ein ffonio ni hefyd ar 0303 123 1113 neu gysylltu drwy sgwrs fyw.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion.
  2. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.