The ICO exists to empower you through information.

Ar y tudalen hwn

Os byddwn yn casglu data personol drwy gyfrwng ein gwefan, byddwn yn agored ynglŷn â hyn. Byddwn yn egluro pryd y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud â hi.

Dadansoddeg

Pan fyddwch yn ymweld â www.ico.org.uk, rydyn ni’n defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am y log rhyngrwyd a manylion ynglŷn â phatrymau ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn er mwyn canfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o'r wefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ar nifer yr ymwelwyr, ac i wneud gwelliannau i'n gwasanaeth.

Dim ond os yw’r ymwelwyr yn optio i mewn y mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei dosbarthu fel data personol am fod Google yn rhoi dynodydd unigryw i bob ymwelydd. Dydyn ni ddim yn ceisio canfod pwy yw'r rhai sy'n ymweld â'n gwefan, nac yn caniatáu i Google geisio gwneud hynny.

Mae gennyn ni fesurau i ddiogelu'r wybodaeth a gesglir, gan gynnwys: cyfyngu ar faint o ddata a gesglir (gan gynnwys peidio â chasglu cyfeiriadau IP llawn), gosod amserlen cadw gwybodaeth, cyfyngu mynediad i'n data Google Analytics, ac adolygu’n defnydd o ddadansoddeg yn gyson.

Rydyn ni’n cadw data dadansoddeg am 14 mis ar ôl ymweliad diwethaf yr ymwelydd.

Cwcis

Rydyn ni’n defnyddio teclyn cwcis ar ein gwefan i sicrhau cydsyniad ar gyfer y cwcis dewisol rydyn ni’n eu defnyddio.

Mae cwcis sy'n angenrheidiol ar gyfer swyddogaethau, diogelwch a hygyrchedd wedi’u gosod ac nid yw’r rhain yn cael eu dileu gan y teclyn.

Gallwch ddarllen rhagor am sut rydyn ni’n defnyddio cwcis, a sut i newid eich dewisiadau cwcis, ar ein tudalen cwcis.

Injan chwilio

Funnelback sy’n pweru’n chwiliad gwefan a'n chwiliad hysbysiadau penderfynu. Mae ymholiadau a chanlyniadau chwilio yn cael eu cofnodi'n ddienw i'n helpu i wella’n gwefan a'n swyddogaethau chwilio. Does dim gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei chasglu gennym ni na Funnelback.

Diogelwch a pherfformiad

Rydyn ni’n defnyddio mur cadarn trydydd parti ar y we gan Cloudflare i helpu i gynnal diogelwch a pherfformiad ein gwefan. Mae'r gwasanaeth yn gwirio bod traffig i'r wefan yn ymddwyn yn unol â’r disgwyl. Bydd y gwasanaeth yn rhwystro traffig nad yw'n defnyddio'r wefan yn unol â’r disgwyl. I ddarparu'r gwasanaeth hwn, mae Cloudflare yn prosesu cyfeiriadau IP ymwelwyr â’r wefan.

Mae’n gwefan yn cael ei lletya yn Microsoft Azure yn y Deyrnas Unedig ac mae gwybodaeth am draffig yn cael ei chadw am 12 mis.

Diben a sail gyfreithlon ar gyfer prosesu

Diben rhoi’r uchod ar waith yw cynnal a monitro perfformiad ein gwefan a cheisio gwella'r wefan a'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig i'n defnyddwyr yn gyson. Y sail gyfreithlon rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw naill ai Erthygl 6(1)(a) o GDPR y Deyrnas Unedig, er enghraifft pan fydd arnon ni angen eich cydsyniad ar gyfer y cwcis dewisol a ddefnyddiwn, neu Erthygl 6(1)(f) sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, er enghraifft, er mwyn cynnal uniondeb ein systemau TG a pharhad ein busnes.

Beth yw eich hawliau?

Gan ein bod yn prosesu’ch data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon fel y nodir uchod, mae gennych chi hawl i wrthwynebu ein gwaith o brosesu’ch data personol. Mae rhesymau dilys pam y gallwn wrthod eich gwrthwynebiad, sy'n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.