The ICO exists to empower you through information.

Rydym wedi datblygu canllaw syml fesul cam ynghylch ymuno â’r ICO. Ond os ydych yn dal yn ansicr am rywbeth, mae croeso ichi gysylltu â ni.

Cam 1: Ymgeisio

  • Bydd angen ichi lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd, mewn ymateb i hysbyseb benodol.
  • Mae’n bwysig eich bod yn dangos sut rydych chi’n bodloni gofynion unigol rôl benodol, felly gofynnwn ichi beidio ag anfon cais ar hap
  • Wrth ichi wneud cais, peidiwch ag anfon eich CV i ategu’ch cais. Fyddwn ni ddim yn gallu ei ystyried.
  • Pan fyddwn yn hysbysebu rôl, rydym bob amser yn cynnwys dyddiad cau. Ar ôl y dyddiad hwnnw, allwn ni ddim derbyn ceisiadau heb gytundeb ymlaen llaw gan ein Tîm Adnoddau Dynol.

Cam 2: Y pecyn ymgeisio

Manyleb swydd
Mae hon yn cynnwys manylion y rôl a’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen.

Ffurflen gais
Bydd eich atebion a’r wybodaeth a rowch yn ein galluogi i ddeall ac asesu’ch sgiliau, eich cymwysterau, hanes eich gyrfa a’ch rhesymau dros wneud cais.

Ffurflen cyfle cyfartal
Caiff y ffurflen hon ei gwahanu oddi wrth eich cais ar unwaith ar ôl i hwnnw ddod i law’r Tîm Adnoddau Dynol ac nid yw ar gael i neb sy’n ymwneud â’r broses ddethol.

I gael cyfarwyddyd ar lenwi’ch ffurflen gais, a ble i’w hanfon, gweler ein hadran Cynghorion.

Cam 3: Y rhestr fer a’r cyfweliad

Llunio’r rhestr fer
Mae pob cais yn cael ei asesu gan banel rhestr fer yn unol â’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi o’i chymharu â’r meini prawf a osodwyd yn y fanyleb person. Mae pob cais yn cael ei sgorio a’i gymharu er mwyn llunio rhestr fer ar gyfer y swydd.

Gwahoddiad i gyfweliad
Os cewch eich gosod ar y rhestr fer, bydd ein Tîm Adnoddau Dynol yn anfon neges ebost neu’n eich ffonio, o leiaf wythnos cyn dyddiad y cyfweliad fel arfer. Byddwn yn rhoi gwybod ichi hefyd os oes unrhyw ofynion ychwanegol. Gan ddibynnu ar y rôl, gallai’r rhain gynnwys cyflwyniad, asesiad ysgrifenedig neu gwblhau asesiad rhesymu geiriol ar-lein.

Gofynion arbennig
Os ydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad a bod gennych ofynion arbennig, cysylltwch â’n Tîm Adnoddau Dynol er mwyn iddyn nhw ddarparu ar gyfer eich anghenion ymlaen llaw.

Cam 4: Y cynnig cyflogaeth

Y cynnig cyflogaeth
Bydd ein Tîm Adnoddau Dynol yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau’r cynnig cyflogaeth dros dro, ynghyd â chopi o’r prif delerau ac amodau cyflogaeth. Bydd eich cynnig yn cael ei wneud yn amodol ar eirdaon boddhaol, cliriad iechyd galwedigaethol, prawf o’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig a chliriad diogelwch.

Tystiolaeth o gymwysterau 
Gall y cynnig cyflogaeth gael ei dynnu’n ôl os na allwch ein bodloni eich bod wedi ennill y cymwysterau a restrwyd ar y ffurflen gais.

Geirdaon
Pan gynigir y rôl, bydd angen ichi roi enwau dau ganolwr o blith cyfuniad o gyflogwyr a chanolwyr academaidd. Dylai un geirda gael ei roi gan eich cyflogwr diweddaraf a dylai o leiaf un ymdrin â chyfnod o flwyddyn neu ragor. Os nad yw hyn yn bosibl, gellir gofyn ichi roi enwau canolwyr ychwanegol. Nid yw geirda personol yn dderbyniol.

Cliriad iechyd galwedigaethol
Pan gynigir y rôl, gofynnir ichi lenwi holiadur meddygol ar-lein cyn ichi gael eich cyflogi. Anfonir y canlyniadau’n uniongyrchol at ein darparwyr Iechyd Galwedigaethol a fydd yn ei sgrinio i gadarnhau inni eich bod yn ffit i weithio.

Cliriad diogelwch
Gan fod pawb yn yr ICO o dan ddyletswydd i ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol, mae’n orfodol ichi ddangos prawf pwy ydych chi, eich cenedligrwydd a’ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn y gall eich penodiad ddechrau. Bydd ein Tîm Adnoddau Dynol yn trefnu hyn a gallant roi gwybod ichi am fathau addas o ID. Gofynnir hefyd ichi lenwi datganiad cofnodion troseddol cyn i unrhyw gynnig cyflogaeth dros dro gael ei gadarnhau. Mae rhai o’n rolau’n gofyn cael cliriad diogelwch gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, oherwydd natur yr wybodaeth y gallech ei gweld. Bydd hyn yn gofyn ichi ddatgan unrhyw gollfarnau sydd gennych, p’un a ydyn nhw wedi darfod ai peidio.

Y cynnig ffurfiol
Ar ôl i eirdaon, iechyd galwedigaethol a diogelwch gael eu dilysu, gall cynnig cyflogaeth ffurfiol gael ei wneud. Wedyn cysylltir â chi i gytuno ar ddyddiad dechrau ac ar ôl i hwnnw gael ei gadarnhau anfonir llythyr atoch i roi manylion y trefniadau ar gyfer eich diwrnod cyntaf ynghyd â’ch contract cyflogaeth llawn.