The ICO exists to empower you through information.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi rhoi dirwy o £200,000 i gwmni gwella cartrefi am wneud mwy na hanner miliwn o alwadau marchnata digroeso.

Gwnaeth Home2Sense Ltd o Lanbedr Pont Steffan 675,478 o alwadau niwsans rhwng Mehefin 2020 a Mawrth 2021, gan gynnig gwasanaethau inswleiddio i bobl a oedd wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn (TPS).

Mae’n anghyfreithlon gwneud galwadau marchnata i rifau ffôn sydd wedi’u cofrestru gyda’r TPS ers mwy nag 28 diwrnod, oni bai bod y derbynnydd wedi hysbysu’r cwmni nad yw’n gwrthwynebu cael galwadau o’r fath.

Dywedodd Home2Sense Ltd wrth ymchwilwyr yr ICO fod data’r cwsmeriaid wedi’i gael o “ffynhonnell anhysbys” gan fwrw’r bai ar ei staff am beidio â sgrinio’r rhifau ffôn yn eu cronfa ddata yn erbyn y TPS.

Yn dilyn mwy na 60 o gwynion gan y cyhoedd, gwelodd ymchwiliad yr ICO fod y cwmni wedi’i gyflwyno’i hun gydag enwau masnachu gwahanol wrth ffonio cwsmeriaid, gan gynnwys ‘Cozy Loft’, ‘Warmer Homes’ a ‘Comfier Homes’. Mae hyn hefyd yn anghyfreithlon.

Dywedodd Ken Macdonald, Pennaeth Rhanbarthau’r ICO:

“Mae agwedd ddi-hid Home2Sense, ynghyd â’i ymdrechion i wyro’r cyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r gyfraith tuag at ei staff, yn dangos diffyg ystyriaeth llwyr o hawliau preifatrwydd pobl.

“Disgrifiodd rhai o’r achwynwyr y galwadau fel rhai ‘ymosodol’, ac achosodd y cwmni i ddau achwynydd deimlo gofid mawr pan ofynnwyd am gael siarad â pherthynas a oedd wedi marw.”

“Mae perchnogion busnesau sy’n gweithredu yn y maes hwn o dan ddyletswydd i roi gweithdrefnau a hyfforddiant cadarn ar waith fel bod y gyfraith yn cael ei dilyn. Fydd ymdrechion i ddibynnu ar anwybodaeth o’r gyfraith neu geisio rhoi’r bai ar aelodau staff neu gyflenwyr allanol ddim yn cael eu goddef.”

Roedd y cwynion yn cynnwys:

  • “Gofyn am gael siarad â Mrs [wedi’i olygu] sef fy niweddar fam i a fu farw dros 10 mlynedd yn ôl am fod angen arolygu insiwleiddiad y lofft gan y gallai achosi problemau. Galwon nhw dair gwaith. Roedd hyn yn peri gofid gan eu bod yn gofyn am siarad â’m diweddar fam. Does bosib na ddylai bod ar gofrestr TPS atal y galwadau yma ac mae angen eu herlyn nhw.” (sic)
  • “Dweud mai syrfëwr lleol oedden nhw a dweud fy mod i wedi cael adnewyddu’r insiwleiddiad yn yr atig amser maith yn ôl. Dweud hefyd y gallwn i fod yn gymwys i gael grant am ddim i’w adnewyddu fe eto. Roedden nhw’n gwybod fy enw i, fy nghyfeiriad i a fy rhif ffôn i. Dyma dŷ fy mam a fu farw’n ddiweddar a finnau newydd ei etifeddu fe yn y misoedd dwetha. Roedd yn ofidus iawn cael rhywun yn fwriadol yn fy ngalw i heb rybudd. Dywedon nhw nad oedd hi’n anghyfreithlon ffonio rhywun ar restr y TPS ac na allen nhw gael eu dirwyo am wneud.” (sic)
  • “Roedden nhw yn ein hardal ni yn holi am ein hinswleiddiad lofft. Roedden nhw’n gwrthod cymryd na yn ateb felly fe roies i’r ffôn i lawr a blocio’u rhif nhw.” (sic)
  • “Galwad oer yn cynnig arolwg am ddim o’n deunydd inswleiddio ni yn y to. Gwerthu’n galed ac aflonyddu. Rŷn ni wedi cofrestru gyda TPS ers blynyddoedd lawer ond, er bod nifer y galwadau niwsans wedi gostwng, mae gormod o alwadau gwerthu digroeso o hyd.” (sic)

Mae’r ICO hefyd wedi rhoi hysbysiad gorfodi i’r cwmni yn gorchymyn eu bod yn rhoi’r gorau i wneud galwadau marchnata digroeso.

Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi dioddef negeseuon testun, galwadau neu negeseuon ebost niwsans roi gwybod i’r ICO, cysylltu â ni drwy sgwrs fyw neu ffonio’n llinell gymorth ar 0303 123 1113.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion
  2. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.
  3. Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) yn cyd rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebu electronig. Ceir rheolau penodol ynghylch:
    • galwadau, negeseuon ebost, negeseuon testun a negeseuon ffacs at farchnata;
    • cwcis (a thechnolegau tebyg);
    • cadw gwasanaethau cyfathrebu’n ddiogel; a
    • phreifatrwydd cwsmeriaid o ran data ar draffig a lleoliadau, biliau fesul eitem, adnabod llinellau, a chofnodion mewn cyfeiriaduron.
  4. Mae gan yr ICO bŵer o dan PECR i osod cosb ariannol ar reolwr data o hyd at £500,000.
  5. Mae Cosbau Ariannol Sifil (CMPs) yn dod o dan hawl i apelio i’r Siambr Reoleiddiol Gyffredinol (Tribiwnlys Haen Gyntaf) yn erbyn gosod y gosb ariannol a/neu swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad cosb ariannol.
  6. Mae unrhyw gosb ariannol yn cael ei thalu i Gronfa Gyfunol y Trysorlys ac nid yw’n cael ei chadw gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
  7. I roi gwybod am bryder i’r ICO ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 123 1113 neu ewch i ico.org.uk/concerns.