The ICO exists to empower you through information.

Ga i ofyn am yr wybodaeth mae fy athro neu athrawes yn ei defnyddio i benderfynu ar fy ngraddau yn lle arholiadau?

Cewch.  Oherwydd y pandemig coronafeirws efallai na fyddwch yn gallu sefyll eich arholiadau.  Yn hytrach, gall dulliau asesu eraill gael eu defnyddio i ddyfarnu graddau.

O dan GDPR y Deyrnas Unedig, mae gennych chi hawl i ofyn am wybodaeth amdanoch chi a'ch perfformiad.  Gallai hyn gynnwys:

  • asesiadau a thystiolaeth athrawon;
  • sylwadau ysgrifenedig neu negeseuon ebost am nail ai eich gradd neu’ch perfformiad, neu'r ddau; a
  • chofnodion o'ch perfformiad yn y gorffennol, fel canlyniadau ffug arholiadau, aseiniadau neu asesiadau.

Serch hynny, does dim hawl gennych i gael unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei chofnodi eich hun.  Mae hyn yn golygu na allwch gael copïau o'ch atebion mewn ffug arholiadau, aseiniadau neu asesiadau ysgrifenedig.

Cyn belled â bod y canlyniadau terfynol wedi'u cyhoeddi, mae’n rhaid i'ch ysgol neu’ch coleg ymateb i'ch cais o fewn mis.  Mae hyn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu graddau terfynol yr un pryd.

Serch hynny, os gofynnwch am yr wybodaeth hon cyn i'r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi, mae’n rhaid i'ch ysgol neu’ch coleg ymateb:

  • o fewn pum mis ar ôl cael eich cais; neu
  • o fewn 40 diwrnod ar ôl i’r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi (p’un bynnag yw’r cynharaf)

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i weld gwybodaeth, gweler ein gwefan.

Ga i gael gwybodaeth am fy ngraddau terfynol yn gynnar gan fy ysgol neu fy ngholeg?

Nid yw pob dull o ymdrin ag arholiadau ac asesiadau yr un fath ledled y Deyrnas Unedig.  Caiff eich athrawon drafod rhywfaint o wybodaeth gyda chi, megis gwybodaeth am eich perfformiad a pha dystiolaeth maen nhw wedi’i hystyried i benderfynu ar eich graddau.  Mae rhai o’r rheoleiddwyr cymwysterau yn y Deyrnas Unedig yn gofyn i ysgolion rannu graddau dros dro gyda’u myfyrwyr, cyn eu cyflwyno i'r bwrdd arholi.  I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion a bennwyd gan bob rheoleiddiwr, gweler y dolenni isod.

Mae’r gyfraith diogelu data yn golygu y gallwch gael yr wybodaeth am eich graddau terfynol, ar ôl i’r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi, a hynny er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn cael eu graddau terfynol yr un pryd. 

Ches i mo’r graddau roeddwn i’n eu haeddu yn fy marn i – alla i ddarganfod pam?

Ar ôl i’r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi, gallwch ofyn i'ch ysgol neu’ch coleg am wybodaeth am sut maen nhw wedi penderfynu ar eich graddau, megis:

  • eich asesiadau athro;
  • y dystiolaeth y mae’r athrawon yn ei defnyddio i wneud y penderfyniadau hyn, megis canlyniadau blaenorol o ffug arholiadau, aseiniadau neu asesiadau;
  • eich cofnodion perfformiad; neu
  • gyfnewidiadau ebost yn trafod eich graddau dros dro neu’ch asesiad athro.

Fel yr amlinellir uchod, mae’n rhaid i'ch ysgol neu’ch coleg ymateb i'ch cais o fewn mis.

Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen i ysgol neu goleg gadw gwybodaeth rydych chi’n gofyn amdani yn ôl.  Gallai hynny ddigwydd am fod esemptiad yn gymwys neu os gallai’r wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani ddatgelu rhywbeth am unigolyn arall (e.e.  myfyriwr arall).

Mae GDPR y Deyrnas Unedig yn golygu bod rhaid i'r marc mae'r arholwr yn ei ddyfarnu gael ei gofnodi'n gywir, ond nid yw'n rhoi hawl ichi herio penderfyniad yr arholwr.

Serch hynny, efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn marc a gewch chi mewn arholiad o dan weithdrefnau apelio'r bwrdd arholi ei hun.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth isod.

Dwi'n anfodlon ar y ffordd mae fy ysgol i wedi trin fy nata personol i – beth alla i ei wneud?

Os nad ydych chi’n fodlon â'r ffordd mae eich ysgol neu’ch coleg wedi trin eich data personol yna fe allai hyn fod yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo. Er hynny, yn gyntaf bydd angen ichi godi’ch pryderon gyda'r sefydliad a rhoi cyfle iddyn nhw ymateb ac unioni pethau. Os hoffech ofyn am adolygiad neu herio gradd, y broses apelio ffurfiol fydd y ffordd briodol o wneud hynny. Ond os oes gennych bryderon penodol am y ffordd y cafodd eich data personol ei drin, dylech chi ddechrau o hyd drwy godi'r mater gyda'ch ysgol neu’ch coleg yn y lle cyntaf.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i godi’ch pryderon yn effeithiol, gweler ein canllawiau a'n templed llythyr yma. Os yw'r ysgol neu'r coleg wedi methu datrys eich pryder ynghylch hawliau gwybodaeth neu’n anfodlon gwneud, wedyn gallwch godi'r mater gyda ni. Bydd angen ichi roi'r canlynol i ni:

  • Copïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon ebost rydych chi wedi’u hanfon at y sefydliad yn cwyno am y mater hwn; a
  • Chopïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon ebost maen nhw wedi’u hanfon yn ôl, yn dangos bod eu proses gwyno nhw wedi dod i ben.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu a oes yna gyfle i wella arferion hawliau gwybodaeth y sefydliad.

I wneud cwyn i’r ICO, ewch i’r adran gwyno ar ein gwefan.

Os oes arnoch angen cymorth wrth gyflwyno'ch cwyn, cysylltwch â ni ar 0303 123 1113.

Rhagor o wybodaeth

  • I fyfyrwyr yng Nghymru, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru
  • I fyfyrwyr yn Lloegr, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Ofqual
  • I fyfyrwyr yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y CCEA
  • I fyfyrwyr yn yr Alban, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan yr SQA