Croeso i dudalen we Swyddfa’r ICO yng Nghymru.
Swyddfa’r ICO yng Nghaerdydd yw’r man cysylltu lleol i'r cyhoedd ac i sefydliadau yng Nghymru.
- Mae gennyn ni wasanaeth cynghori sy’n mynd i’r afael ag ymholiadau cyffredinol ynghylch diogelu data a rhyddid gwybodaeth.
- Rydyn ni’n hybu arferion da mewn hawliau gwybodaeth, drwy godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau sefydliadau ar draws pob sector.
- Rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach i ddylanwadu ar feysydd polisi perthnasol ac i roi hawliau gwybodaeth ar waith.
- Cyhyd ag y bydd rhywun ar gael, gallwn ddarparu siaradwyr ar gyfer digwyddiadau priodol ym maes codi ymwybyddiaeth.
Safonau’r Gymraeg
Mae’r ICO wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i’r holl randdeiliaid, a sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio â safonau ymddygiad o ran y Gymraeg. Mae’r ICO wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i randdeiliaid Cymraeg, ac mae swyddfa’r ICO yng Nghymru’n cynnig y gwasanaethau hyn yn unol â’r safonau a osodwyd yn ein Hysbysiad Cydymffurfio sydd i’w weld yma.
Dylai cwynion a chanmoliaeth ynghylch y modd yr ydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg gael eu mynegi mewn ysgrifen a’u cyfeirio at y swyddfa yng Nghymru gan ddefnyddio’r manylion cysylltu isod. Ymdrinnir â’r rhain yn unol â’n safonau gwasanaeth a’n gweithdrefn gwyno bresennol.
Gallwch roi gwybod am bryderon hefyd i Gomisiynydd y Gymraeg.
Manylion cysylltu’r ICO yng Nghymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd CF10 2HH
Ffoniwch 0330 414 6421 i siarad â’r tîm os gwelwch yn dda.
Ebost: [email protected]
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.