The ICO exists to empower you through information.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthoch chi am yr hyn y gallwch ddisgwyl inni ei wneud â’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu â ni neu’n defnyddio un o’n gwasanaethau.

Mae sawl haen i’r hysbysiad. Felly os ydych yn dymuno, mae’n hawdd ichi ddewis y rheswm rydyn ni’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol a gweld beth rydyn ni’n ei wneud a hi.

Byddwn yn dweud:

  • pam rydyn ni’n gallu prosesu’ch gwybodaeth;
  • i ba ddiben rydyn ni’n ei phrosesu;
  • a oes rhaid ichi ei darparu inni ai peidio;
  • pa mor hir y byddwn yn ei storio;
  • a oes yna bobl eraill sy’n derbyn eich gwybodaeth bersonol;
  • a ydyn ni’n bwriadu ei throsglwyddo i wlad arall; ac
  • a ydyn ni’n gwneud gwaith penderfynu neu waith proffilio yn awtomataidd.

Gwybodaeth y mae angen inni ei rhoi i bawb yw rhan gyntaf yr hysbysiad.