The ICO exists to empower you through information.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth hon yw hwyluso’r digwyddiad a darparu gwasanaeth derbyniol ichi.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw eich cydsyniad o dan erthygl 6(1)(a) o’r GDPR. Pan fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth am anghenion deiet neu anghenion mynediad mae arnon ni angen eich cydsyniad chi hefyd (o dan erthygl 9(2)(a)) gan fod y math hwn o wybodaeth wedi’i ddosbarthu’n ddata categori arbennig.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Os hoffech ddod i un o’n digwyddiadau, gofynnir ichi roi’ch gwybodaeth gysylltu gan gynnwys enw’ch sefydliad ac, os cynigir lle ichi, gwybodaeth am unrhyw ofynion deiet neu ddarpariaeth ar gyfer mynediad y gall fod arnoch ei hangen. Fe allen ni ofyn am daliad hefyd os oes rhaid talu i fod yn bresennol.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i hwyluso’r digwyddiad ac i roi gwasanaeth derbyniol ichi. Mae arnon ni angen yr wybodaeth hefyd er mwyn ymateb i chi.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Os na fyddwch yn llwyddo i gael lle, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn cadw’ch manylion ar restr wrth gefn rhag ofn y daw lle ar gael.

Os bydd lle’n cael ei ddyrannu ichi mewn digwyddiad, byddwn yn gofyn am wybodaeth am unrhyw ofynion o ran deiet a mynediad. Dydyn ni ddim yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r lleoliad mewn unrhyw fodd sy’n eich adnabod, a byddwn yn ei dileu ar ôl y digwyddiad.

Dydyn ni ddim yn cyhoeddi rhestrau o aelodau digwyddiadau.

Pa mor hir y byddwn yn ei gadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad er mwyn prosesu’r data personol y byddwch yn ei rhoi inni, er mwyn hwyluso’r digwyddiad. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd. Os gwnewch chi hynny, byddwn yn diweddaru’n cofnodion ar unwaith i gyd-fynd â’ch dymuniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ’Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – rydym yn defnyddio proseswyr data i helpu i hwyluso’r digwyddiadau.

Rydym yn casglu gwybodaeth gofrestru o rai o’r mân wefannau cynadleddau. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ddull adrodd ar-lein sy’n cael ei gynnal gan Snap Surveys, sy’n prosesu gwybodaeth yn unol â’n cyfarwyddiadau ni.

Weithiau gallwn godi ffi am ddod i ddigwyddiad. Os felly, bydd ein gohebiaeth am y digwyddiad yn rhoi manylion y prosesydd data rydyn ni’n ei ddefnyddio i gasglu’r taliadau.