The ICO exists to empower you through information.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...'.

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben yw ymchwilio a chymryd camau rheoleiddio yn unol â’n dyletswyddau statudol.

Rydym yn dibynnu ar Atodlen 8 1(a) a (b) o Ddeddf Diogelu Data 2018 i brosesu’ch data personol. Mae hyn yn ymwneud â gwaith prosesu sy’n angenrheidiol er mwyn i swyddogaeth a roddwyd i berson gan ddeddf neu reol gyfreithiol gael ei chyflawni ac sy’n angenrheidiol oherwydd budd cyhoeddus arwyddocaol. Mae hyn yn rhan o’n swyddogaeth reoleiddio.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Pan fyddwn yn ymchwilio i drosedd honedig, byddwn yn llunio gwybodaeth a thystiolaeth yn ei gylch.

Pam mae arnom ei angen

Yn rhinwedd ein swydd  fel rheoleiddiwr, mae angen inni ddarganfod a yw’r ddeddfwriaeth rydyn ni’n ei goruchwylio wedi’i thorri, er mwyn inni gymryd camau cyfreithiol os yw’n briodol. Felly, byddwn yn casglu gwybodaeth berthnasol amdanoch i wneud hyn.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Dim ond er mwyn gweld a yw’r ddeddfwriaeth wedi’i thorri y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, ac er mwyn erlyn os bydd gennym dystiolaeth bod y ddeddfwriaeth wedi’i thorri.

O dan rai amgylchiadau fe allen ni rannu’ch gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau eraill yn ystod ymchwiliad.

Os byddwn yn bwrw ymlaen ag achos cyfreithiol, byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’n cwnsleriaid cyfreithiol, y llysoedd ac unrhyw gyd-ddiffinyddion a’u cynrychiolwyr cyfreithiol nhw.

Pan gymerwn gamau gorfodi yn erbyn rhywun, gallwn gyhoeddi pwy yw’r diffynnydd yn ein Hadroddiad Blynyddol neu yn y cyfryngau. Dydyn ni ddim yn dangos pwy yw’r achwynwyd fel arfer oni bai bod y manylion wedi’u cyhoeddi’n barod.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Mae data personol am euogfarnau troseddol a throseddau yn dod o dan Ran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 at ddibenion gorfodi’r gyfraith. Mae yna hawliau penodol ynglŷn â’r math hwn o ddata personol.

Enwir dibenion gorfodi’r gyfraith yn y ddeddfwriaeth fel hyn: atal, canfod neu erlyn troseddau neu osod cosbau troseddol, gan gynnwys atal a diogelu rhag bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd.

Mae gennych chi hawl i weld eich data personol chi sy’n cael ei ddal gennyn ni neu ar ein rhan. Mae gennych hawl hefyd i gywiro data anghywir ac i gwblhau data anghyflawn, ac i gael dileu’ch data personol o dan amgylchiadau penodol.

Gallwch hefyd ddarllen ein polisi diogelu ‘Safeguarding Policy: sensitive processing for law enforcement purposes’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – gallwn ddefnyddio cwnsleriaid cyfreithiol allanol ar gyfer achosion llys.