The ICO exists to empower you through information.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...'.

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth yw rhoi gwasanaeth ichi a rhoi gwybod ichi am ddigwyddiadau sydd yn yr arfaeth.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw eich cydsyniad o dan erthygl 6(1)(a) o’r GDPR.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Eich enw a’ch cyfeiriad ebost.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio’ch cyfeiriad ebost i anfon ein e-gylchlythyr atoch.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Dim ond i ddarparu’r gwasanaeth yr ydyn ni’n defnyddio’ch manylion.

Rydyn ni’n casglu ystadegau ynghylch agor negeseuon ebost a chliciau gan defnyddio technolegau safonol y diwydiant gan gynnwys gifs clir i’n helpu i fonitro a gwella’n e-gylchlythyr.

Fe gewch neges ebost i gadarnhau ar ôl ichi gyflwyno’ch manylion ac wedyn cewch y cylchlythyr bob mis.

Pa mor hir y byddwn yn ei gadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydyn ni’n dibynnu ar eich cydsyniad i brosesu’r data personol rydych chi’n ei roi inni at ddibenion marchnata. Mae hyn yn golygu bod gennych chi hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl, neu wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol unrhyw bryd. Os gwnewch chi hynny, byddwn yn diweddaru’n cofnodion ar unwaith i gyd-fynd â’ch dymuniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – rydym yn defnyddio Adestra i ddosbarthu’r e-gylchlythyr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad preifatrwydd Adestra.