The ICO exists to empower you through information.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni wrth brosesu’r wybodaeth hon yw cael pwynt cysylltu yn eich sefydliad chi a rhoi canlyniad yr ymweliad i chi.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Pan fyddwn yn cynnal ymweliad archwilio neu ymweliad cynghori, cymerwn enw a manylion cysylltu prif bwynt cysylltu’ch sefydliad. Gallwn gymryd manylion aelodau eraill o’r staff hefyd yn ystod yr ymweliad.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio’r data a gesglir i gwblhau’r ymweliad archwilio/cynghori ac i roi tystiolaeth o’r wybodaeth a ddarparwyd.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Gallwn gyhoeddi crynodeb o’r archwiliad rydyn ni wedi’i gwblhau gyda chi, ond fydd hyn ddim yn cynnwys data personol. Byddwn yn cyhoeddi’r ffaith ein bod wedi cynnal ymweliad cynghori, ond fydd hyn ddim yn cynnwys data personol.

Pa mor hir y byddwn yn ei gadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol yn yr wybodaeth am yr ymweliad yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn.