The ICO exists to empower you through information.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...'.

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth hon yw hwyluso’r digwyddiad a rhoi mynediad iddo.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw eich cydsyniad o dan erthygl 6(1)(a) o’r GDPR.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Os hoffech gofrestru ar gyfer un o’n gweminarau, gofynnir ichi roi’ch gwybodaeth gysylltu.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i hwyluso’r digwyddiad ac i roi gwasanaeth derbyniol ichi.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn anfon manylion y gweminar atoch drwy’r ebost cyn y digwyddiad rydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer, a recordiad o’r gweminar ar ôl y digwyddiad.

Dydyn ni ddim yn cyhoeddi rhestrau o aelodau gweminarau.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad er mwyn prosesu’r data personol y byddwch yn ei rhoi inni, er mwyn hwyluso’r gweminar. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd. Os gwnewch chi hynny, byddwn yn diweddaru’n cofnodion ar unwaith i gyd-fynd â’ch dymuniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn.