The ICO exists to empower you through information.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...'.

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth brosesu’ch data personol yw cyflawni’ch cais chi inni am wybodaeth.

Y sail gyfreithiol dros hyn yw erthygl 6(1)(C) o’r GDPR, sy’n ymwneud â’r prosesu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol rydyn ni’n dod odani.

Os bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ynglŷn â’ch cais am wybodaeth yn cynnwys data categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd neu grefydd neu wybodaeth ethnig, y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i’w brosesu yw erthygl 9(2)(g) o’r GDPR, sydd hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus ac â diogelu’ch hawliau sylfaenol chi, ac Atodlen 1, rhan 2(6) o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a dibenion y llywodraeth.

Yr hyn y bydd arnom ei angen and pham mae arnom ei angen

Mae arnon ni angen gwybodaeth gennych chi er mwyn ymateb i chi a dod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani. Mae hyn yn ein galluogi i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth rydyn ni’n dod o dani:

  • Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2016)
  • Deddf Diogelu Data (2018)
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000)
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004)
  • Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus

Yr hyn a wnawn gydag ef

Pan gawn ni gais gennych, byddwn yn agor ffeil achos electronig a fydd yn cynnwys manylion eich cais. Mae’r rhain fel rheol yn cynnwys eich manylion cysylltu ac unrhyw wybodaeth arall rydych chi wedi’i rhoi inni. Yn y ffeil achos hon byddwn ni hefyd yn storio copi o’r wybodaeth sy’n dod o fewn rhychwant eich cais.

Os ydych yn gwneud cais ynglŷn â’ch data personol, neu’n gweithredu ar ran rhywun sy’n gwneud cais o’r fath, yna byddwn yn gofyn am wybodaeth i’n bodloni pwy ydych chi. Os yw’n berthnasol, byddwn yn gofyn hefyd am wybodaeth i ddangos bod gennych awdurdod i weithredu ar ran rhywun arall.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddir inni er mwyn prosesu’ch cais am wybodaeth ac i wirio lefel y gwasanaeth rydyn ni’n ei roi.

Os yw’r cais yn ymwneud â gwybodaeth rydyn ni wedi’i chael oddi wrth sefydliad arall – ynghylch cwyn, er enghraifft – byddwn yn cysylltu â’r sefydliad(au) o dan sylw fel rhan o’r drefn i ofyn eu barn nhw am ddatgelu’r deunydd.

Rydym yn llunio ac yn cyhoeddi ystadegau sy’n dangos gwybodaeth megis nifer y ceisiadau sy’n dod i law, ond heb fod mewn ffurf sy’n adnabod neb.

Pa mor hir y byddwn yn ei gadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn – dydyn ni ddim yn defnyddio proseswyr data ar gyfer yr uchod.