Rydyn ni’n dal enwau a manylion cysylltu unigolion sy’n gweithredu yn rhinwedd eu swydd fel cynrychiolwyr i’w sefydliadau, ar draws y busnes. Os yw hyn yn ymwneud â chydadweithiau ynglŷn â’n swyddogaethau rheoleiddio, y sail gyfreithiol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR. Os yw’r cydadweithiau’n ymwneud â chyflenwyr, contractau, rheoli adeiladau, gwasanaethau TG etc, y sail gyfreithiol yw erthygl 6(1)(c) o’r GDPR yn achos unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu erthygl 6(1)(f) am fod y gwaith prosesu o fewn ein buddiannau dilys ni fel busnes.