O dan y gyfraith diogelu data, mae ne’r hawliau sydd ar gael ichi yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu’ch gwybodaeth.
Eich hawliau i weld gwybodaeth
Mae gennych hawl i ofyn inni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r hawl hon yn gymwys bob amser. Mae yna rai esemptiadau, sy’n golygu ei bod yn bosibl na fyddwch bob amser yn cael yr holl wybodaeth rydyn ni’n ei phrosesu. Gallwch ddarllen mwy am yr hawl hon yma.
Eich hawl i gael cywiriad
Mae gennych hawl i ofyn inni gywiro gwybodaeth rydych chi’n credu ei bod yn anghywir. Mae gennych hawl hefyd i ofyn inni gwblhau gwybodaeth rydych yn credu ei bod yn anghyflawn. Mae’r hawl hon yn gymwys bob amser. Gallwch ddarllen mwy am yr hawl hon yma.
Eich hawl i gael dileu gwybodaeth
Mae gennych hawl i ofyn inni ddileu’ch gwybodaeth bersonol o dan amgylchiadau penodol. Gallwch ddarllen mwy am yr hawl hon yma.
Eich hawl i gyfyngu prosesu
Mae gennych hawl i ofyn inni gyfyngu’r gwaith i brosesu’ch gwybodaeth o dan amgylchiadau penodol. Gallwch ddarllen mwy am yr hawl hon yma.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu
Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu os ydyn ni’n gallu prosesu’ch gwybodaeth am fod y broses yn rhan o’n tasgau cyhoeddus, neu am fod hynny er ein budd dilys ni. Gallwch ddarllen mwy am yr hawl hon yma.
Eich hawl i gael trosglwyddo data
Dim ond i wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi inni y mae’r hawl hon yn gymwys. Mae gennych hawl i ofyn inni drosglwyddo’r wybodaeth a roesoch inni o un sefydliad i un arall, neu ei rhoi i chi. Dim ond os ydyn ni’n prosesu gwybodaeth ar sail eich cydsyniad chi y mae’r hawl hon yn gymwys, neu o dan drafodaethau neu mewn trafodaethau ynghylch gwneud contract a bod y prosesu’n brosesu awtomataidd. Gallwch ddarllen mwy am yr hawl hon yma.
Os ydyn ni’n prosesu’ch gwybodaeth er mwyn gorfodi’r gyfraith droseddol, mae’ch hawliau chi ychydig bach yn wahanol. Gweler yr adran berthnasol o’r hysbysiad.
Nid yw’n ofynnol ichi dalu unrhyw ffi am arfer eich hawliau. Mae gennyn ni fis i ymateb ichi.
Cysylltwch â ni yn [email protected] os hoffech wneud cais, neu cysylltwch â’n llinell gymorth ar 0303 123 1113.