Dydyn ni ddim yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i blant nac yn mynd ati i gasglu eu gwybodaeth bersonol. Er hynny, mae gwybodaeth yn cael ei rhoi inni weithiau am blant tra byddwn yn ymdrin â chŵyn neu’n cynnal ymchwiliad. Mae’r wybodaeth yn y rhannau perthnasol o’r hysbysiad hwn yn gymwys i blant yn ogystal ag i oedolion.
Mae fersiwn Saesneg y wefan hon wedi’i chymeradwyo o ran eglurder gan y Plain Language Commission. Mae hynny’n golygu y dylai rhywun sydd ag oedran darllen o 14 o leiaf allu dilyn y prif bwyntiau.