Wnawn ni ddim rhannu’ch gwybodaeth gydag unrhyw drydydd partïon at ddibenion marchnata uniongyrchol.
Rydym yn defnyddio proseswyr data sy’n drydydd partïon sy’n darparu elfennau o wasanaethau ar ein rhan. Mae gennyn ni gontractau â’n proseswyr data. Mae hyn yn golygu na allan nhw wneud dim â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod ni wedi’u cyfarwyddo i wneud hynny. Wnân nhw ddim rhannu’ch gwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad heblaw amdanon ni. Byddant yn ei chadw’n ddiogel a hynny am y cyfnod y byddwn ni’n ei gyfarwyddo.
O dan rai amgylchiadau rydym o dan rwymedigaeth gyfreithiol i rannu gwybodaeth, er enghraifft o dan orchymyn llys neu pan fyddwn yn cydweithredu ag awdurdodau goruchwylio eraill yn Ewrop wrth ymdrin â chwynion neu ymchwiliadau. Gallem rannu gwybodaeth hefyd gyda chyrff rheoleiddio eraill er mwyn hyrwyddo eu hamcanion nhw neu’n hamcanion ninnau. Mewn unrhyw sefyllfa, byddwn yn ein bodloni’n hunain fod gennyn ni sail gyfreithlon dros rannu’r wybodaeth ac yn cofnodi’n trefn benderfynu gan ein bodloni’n hunain fod gennyn ni sail gyfreithlon dros rannu’r wybodaeth.
Yn rhinwedd ein swyddogaeth fel awdurdod goruchwylio’r Deyrnas Unedig ar gyfer diogelu data, mae yna amgylchiadau lle mae’n rhaid inni gydweithredu ag awdurdodau goruchwylio eraill yn yr AAE a’u helpu, wrth ymdrin â chwynion ac ymchwiliadau. Gall hyn arwain at rannu gwybodaeth bersonol os yw’n berthnasol i’r gŵyn neu’r ymchwiliad.