Manylion y rheolwr
Y Comisiynydd Gwybodaeth yw’r rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu yn eich ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Gallwch weld ein manylion cysylltu yma.
Swyddog Diogelu Data
Ein Swyddog Diogelu Data yw Louise Byers, a gallwch gysylltu â hi drwy [email protected].
Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
Os ydych chi wedi dweud y byddai gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at ragor o waith gan yr ICO at bwnc yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn prosesu’ch manylion cysylltu ac yn dod i gysylltiad â chi.
Byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol arall a ddarperir yn yr ymatebion i fwydo datblygiad ein polisi, ein canllawiau neu’n gwaith rheoleiddio arall ym mhwnc yr ymgynghoriad. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ymgynghori ond fydd hyn ddim yn cynnwys data personol. Bydd y dogfennau ymgynghori yn egluro’r hyn rydyn ni’n bwriadu ei gyhoeddi.
Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.
Derbynwyr data personol – (gyda phwy y byddwn yn rhannu’ch data personol)
Dydyn ni ddim yn bwriadu rhannu’ch data personol gyda neb (arall). Ymdrinnir ag unrhyw geisiadau penodol gan drydydd parti inni rannu’ch data personol gyda nhw yn unol â darpariaethau’r deddfau diogelu data.
Cyfnodau cadw (pa mor hir rydyn ni’n cadw’ch data personol)
Byddwn yn cadw'r wybodaeth yn yr ymateb i’r ymgynghoriad hyd nes y bydd ein gwaith ar bwnc yr ymgynghoriad wedi'i gwblhau.
Eich hawliau dros y data personol y byddwch yn ei ddarparu yn eich ymateb
Mae gennych chi hawl i ofyn am weld y data personol amdanoch sydd gennyn ni.
Mae gennych chi hawl i ofyn i’ch data personol gael ei gywiro neu ei ddileu, neu i gyfyngu ar sut y byddwn yn ei brosesu.
Mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol.
Os ydych yn anfodlon ar y modd yr ydyn ni wedi prosesu’ch data personol yna mae gennych chi hawl i gwyno i awdurdod goruchwylio.
Os hoffech arfer unrhyw un neu ragor o’r hawliau hyn, cysylltwch ag [email protected] neu ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0303 123 1113.